Pam mae Sgowtio angen mwy o help?
Mae gan ScoutsCymru gannoedd o bobl ifanc ar restrau aros, yn bennaf oherwydd diffyg oedolion gwirfoddol. Petasai mwy o oedolion yn helpu, byddai hwn yn lleihau’r baich ar ein gwirfoddolwyr presennol a chaniatau i fwy o bobl ifanc brofi’r antur o Sgowtio. Byddai mwy o oedolion yn golygu y gallai mwy o bobl ifanc ymuno â Sgowtio, gallai Grwpiau fod yn llai neu gellid agor Grwpiau newydd hyd yn oed. Rydyn ni wastad yn croesawu help gan oedolion!
Sut y gallwn i helpu?
Mae sawl ffordd y gallwch chi roi eich amser i helpu Sgowtio beth bynnag yw eich rhyw, oedran, galluoedd a sgiliau. Rhowch wybod i ni pryd rydych chi ar gael a sut hoffech chi helpu a byddwn ni’n paru hyn â rolau o fewn eich ardal leol.
Nid oes gen i gefndir yn Sgowtio, ydy hyn yn bwysig?
Nid oes angen profiad blaenorol o Sgowtio. Egni a brwdfrydedd yw’r rhinweddau sy’n bwysig i ni.
Os yw fy mhlentyn i yn Sgowtio, oes rhywbeth y gallwn i wneud i helpu?
Yr ateb byr yw ‘Oes’. Mae llawer o’n helpwyr ac Arweinwyr yn rhieni i’n Haelodau ieuenctid. Mae sawl rheswm am hyn gan gynnwys y gallu i weld yn uniongyrchol sut mae Sgowtio yn gwneud lles i bobl ifanc ac yna eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, y gallu i dreulio amser gyda’u plentyn a sylweddoli bod gwirfoddoli i Sgowtio yn ddifyr ac yn dysgu sgiliau newydd iddynt.
Bydda i ond yn gallu helpu yn hyblyg ac achlysurol – ydy hyn yn iawn?
Ydy. Mae sawl ffordd wahanol i helpu o fewn Sgowtio a gellir addasu llawer ohonyn nhw ar gyfer eich anghenion. Os ydych chi’n gallu helpu unwaith y pythefnos, mis neu dymor neu dim ond mewn digwyddiadau arbennig neu wersylloedd, bydd rôl i chi chwarae yn sicr. Dysgwch fwy.
Fydda i’n cael fy nhalu?
Yn anffodus, fel mudiad gwirfoddol ni allwn dalu gwirfoddolwyr am yr amser maen nhw’n ei roi i Sgowtio. Telir mân dreuliau a chynigir cyfleoedd i lawer o arweinwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithgareddau cymdeithasol.
Beth yw manteision helpu?
Mae nifer helaeth o fanteision y gallwch chi eu hennill o wirfoddoli. Dysgu sgiliau newydd, cyfrannu at eich cymuned a chael hwyl yw dim ond rhai o’r rhesymau pam mae ein gwirfoddolwyr presennol yn dewis treulio rhan o’u hamser sbâr yn Sgowtio.
Nid oes gen i sgìl benodol ond rwy’n awyddus i helpu, beth alla i wneud?
Bydd gan bawb sgìl, priodoledd neu allu y gallan nhw drosglwyddo i’n pobl ifanc. Un o’r pethau gorau am wirfoddoli, fodd bynnag, yw’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd nad fyddech yn gallu eu gwneud fel arall.
Fydd rhaid i fi wisgo ffurfwisg?
Na fydd. Er bod Sgowtio yn fudiad sydd yn gwisgo ffurfwisg, nid oes angen i oedolion yn Sgowtio wisgo ffurfwisg.
Oes unrhyw gyfyngiadau oedran wrth helpu?
Cyn belled ag y byddwch chi dros 18 oed, gallwch helpu fel gwirfoddolwr o fewn Sgowtio. Nid oes ffin oedran uwch i oedolion gwirfoddol. Os ydych rhwng 14-18 oed, ceir yr opsiwn o fod yn Arweinydd Ifanc. Mwy o wybodaeth am y Cynllun Arweinwyr Ifanc.
Fydda i’n cael fy yswirio?
Byddwch. Mae pob Aelod yn cael ei gynnwys o dan ein Polisi Damweiniau Personol a Threuliau Meddygol
Oes rhaid i fi fod yn Bear Grylls?
Yn bendant na. Tra bod peth o ganolbwynt Sgowtio yn dysgu sgiliau awyr agored i bobl ifanc, mae gyda ni rolau gwirfoddol fydd byth yn eich gweld yn heicio i fyny bryn, cynnau tân na chysgu mewn pabell!
Fydd angen gwiriad yr heddlu arna i?
Ar gyfer y mwyafrif o rolau bydd angen i chi gael gwiriad am ddim gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae rhai pobl yn dal i adnabod hyn wrth ei hen enw sef gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Rydyn ni’n ystyried diogelu ein pobl ifanc yn rhywbeth difrifol iawn ond byddwn yn eich cynorthwyo gyda’r gwiriad a’i wneud mor syml â phosibl.
Pa hyfforddiant fydda i’n ei gael?
I gefnogi oedolion yn Sgowtio, mae’r Mudiad yn darparu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth sydd eisoes yn bod, a datblygu cymwyseddau newydd.
Gall rhai elfennau o’r hyfforddiant gyfri tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn allanol, ac o fewn y mudiad mae gwobrau hefyd i gydnabod ymroddiad i hyfforddiant a gwasanaeth rhagorol.
Mae gen i anabledd, alla i ddal i wirfoddoli?
Mae ScoutsCymru wedi ymrwymo i gynhwysiant ac amrywiaeth, byddwn ni’n gwneud pob addasiad rhesymol i sicrhau y gall oedolion gwirfoddol ag anableddau gymryd rhan o fewn Sgowtio. Os oes gennych ymholiadau penodol yna cysylltwch â ni.
Dydw i ddim yn grefyddol, ydy hyn yn bwysig?
Na, rydyn ni’n croesawu pobl o bob crefydd yn ogystal â’r rhai sydd heb. Mae sawl amrywiad o Addewid y Sgowtiaid i adlewyrchu’r ystod o grefyddau, credoau ac agweddau, a chenedligrwydd yn y DU o fewn Sgowtio.
Angen help dod o hyd i rôl?
Cwestiynau?
Os nad ydych yn siŵr am yr hyn sydd ynghlwm wrth rôl benodol, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu y gallwn ni helpu Dod o Hyd i Rôl i Chi.
Rhydbuddion rôlau
Cadwch yn hysbys am y rôlau diweddaraf drwy gydol ScoutsCymru.