Hygyrchedd

Mae gan ScoutsCymru ymrwymiad i bob un o’i ddefnyddwyr a’i aelodau i wneud www.scoutscymru.org.uk mor hygyrch â phosibl.

Os oes gennych gwestiynau neu awgrymiadau ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon, a wnewch chi ebostio admin@scoutscymru.org.uk gan ein bod yn ymdrechu’n barhaus i wella’r profiad i’n hymwelwyr i gyd.

Sut i addasu’r wefan i gyd-fynd â’ch anghenion

Rhoddir gwybodaeth yn benodol i addasu’r wefan hon isod.

Mae gwybodaeth ychwanegol am wneud y rhyngrwyd yn gyffredinol yn fwy hygyrch ar gael ar wefan My Web My Way y BBC: www.bbc.co.uk/accessibility

Llywio gyda’r bysellfwrdd

Gallwch ddefnyddio’r bysellfwrdd i lywio drwy’r wefan:

  • Bydd y bysellau saeth ar y bysellfwrdd yn rholio i fyny, i lawr, i’r chwith ac i’r dde
  • Gall y bylchwr, os gwasgir, wneud i’r dudalen we neidio o’r top i’r gwaelod
  • Gall y botwm Tab helpu i lywio i ddolenni gwahanol ar y dudalen a phan fyddwch wedi cyrraedd y ddolen sydd eisiau rydych yn gwasgu’r botwm mynd i mewn.

Maint y testun

Mae ein gwefan wedi’i hadeiladu er mwyn i ddefnyddwyr newid main y testun os dymunir:

  • I gynyddu maint y testun, daliwch CTRL i lawr a gwasgwch + i’r maint a ddymunir.
  • I leihau maint y testun, daliwch CTRL i lawr a gwasgwch - i’r maint a ddymunir
  • Ddefnyddwyr Mac daliwch y fysell CTRL/Apple i lawr a gwasgwch + neu – i newid maint y testun.
  • Os ydych yn defnyddio porwr hŷn fel Internet Explorer 6, ewch i Ffeil, Maint y Testun a dewiswch y maint rydych chi angen.

Ffontiau a Lliwiau

Rydych chi hefyd yn gallu newid y lliwiau yn eich porwr:

  • IE7: Cliciwch ar Offer, ac yna Opsiynau Rhyngrwyd, bydd bocs Opsiynau Rhyngrwyd  yn ymddangos, cliciwch ar y botwm Lliwiau a newid y lliwiau rydych chi eisiau. 
  • Mozilla Firefox: Cliciwch ar Offer, ac yna Opsiynau, yna Cynnwys, yna ar y botwm Lliwiau a newid y lliwiau rydych chi eisiau.  
  • Google Chrome: Cliciwch eicon y tyndro ar far offer y porwr ac yna dewiswch Gosodiadau.  Cliciwch “Dangos gosodiadau uwch” ac ewch i’r adran “Cynnwys y We”.  Fan hyn mae gosodiadau amrywiol y gallwch eu newid.

Dogfennau PDF

  • I agor dogfennau PDF bydd angen defnyddio Adobe Reader a gellir lawrlwytho hyn yn rhad ac am ddim o wefan Adobe.
  • Os oes trafferth gennych agor unrhyw un o’n dogfennau PDF ebostiwch ni ar admin@scoutscymru.org.uk 

Rhydbuddion rôlau

Cadwch yn hysbys am y rôlau diweddaraf drwy gydol ScoutsCymru.

Cwestiynau?

Os nad ydych yn siŵr am yr hyn sydd ynghlwm wrth rôl benodol, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu y gallwn ni helpu Dod o Hyd i Rôl i Chi.