Ydych chi’n arbennig o drefnus? Ydych chi’n gallu gweld y manylion? Oes gennych chi fwy na’ch cyfran arferol o synnwyr cyffredin? Os felly, gallwn ni ddefnyddio eich doniau i helpu i drawsnewid bywydau pobl ifanc yn eich ardal.
Gyda barn ragorol, sgiliau dadansoddi a threfnu a chadw cofnodion cywir mewn rhwng pedwar a chwe chyfarfod y flwyddyn byddwch chi’n rhan allweddol o’r Pwyllgor Gwaith, grŵp o wirfoddolwyr sydd yn Ymddiriedolwyr Elusennol ac sy’n gwneud rhai o’r penderfyniadau pwysicaf o fewn Sgowtio.
Mae’r Pwyllgor Gwaith o fewn Sgowtio fel bwrdd llywodraethwyr mewn ysgol; yn y bôn mae’n sicrhau y darperir Sgowtio o’r safon uchaf bosibl i bobl ifanc yn yr ardal leol. Mae’r gwirfoddolwyr sydd yn rhan o’r Pwyllgor yn rhoi eu hamser i sicrhau bod Sgowtio’n parhau i fodloni ei ddiben elusennol, yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Nid oes angen profiad blaenorol o Sgowtio. Yr hyn sy’n bwysicach yw eich sgiliau a phrofiad eich hun yn ogystal ag empathi â’n bwriadau a’n gwerthoedd. Byddwn ni’n darparu’r holl hyfforddiant priodol a chefnogaeth barhaus.
Mae gan bob aelod o’r Pwyllgor Gwaith sgiliau gwahanol i’w cynnig; maen nhw’n dod o gefndiroedd gwahanol ac mae pawb â phrofiadau amrywiol. Mae hyn yn helpu i sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau a Phwyllgor Gwaith mwy crwn ac effeithiol.
Mae sgiliau a phrofiadau sy’n gallu helpu yn cynnwys:
- Cadw cofnodion a gwybodaeth
- Sgiliau TG
- Gwaith tîm
- Datrys problemau
- Gwybodaeth gyfreithiol
- Profiad proffesiynol, rheoli neu fusnes
Mae aelodau Pwyllgor Gwaith yn dod o bob math o gefndiroedd. Gall y rhan fwyaf o bobl ddod yn aelod, ond mae rhai sydd ddim yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys: pobl dan 18 oed, methdalwyr heb eu rhyddhau, cyfarwyddwyr cwmni gwaharddedig.
Mae ScoutsCymru yn cynnig hwyl, cyfeillgarwch ac antur newid bywyd i bobl ifanc o bob cwr o Gymru. Mae hyn ond yn bosibl drwy dîmau talentog o wirfoddolwyr lleol fel chi.