Ydych chi’n gallu ei wneud yn bosibl i bobl ifanc 10 i 14 oed brofi antur newid bywyd? Allwch chi eu cefnogi wrth wneud penderfyniadau, cymryd yr awenau a datblygu annibyniaeth, hyder a sgiliau?
Gan weithio fel rhan o dîm o oedolion gwirfoddol, mae Arweinwyr Sgowtiaid yn cynorthwyo wrth gynllunio a darparu rhaglen ddiogel a chyffrous o weithgareddau awyr agored, prosiectau cymunedol, gêmau, heriau a theithiau rhyngwladol hyd yn oed!
Mae helpu pobl ifanc i dyfu, magu hyder ac ennill gwobrau yn rhoi boddhad enfawr ond byddwch chi hefyd yn ennill sgiliau newydd drwy ein cynllun hyfforddi ardderchog sy’n trafod popeth o gymorth cyntaf hyd at drafod ymddygiad heriol.
Nid oes rhaid bod â phrofiad blaenorol o weithio ochr yn ochr â phobl ifanc, neu hyd yn oed wedi bod yn Sgowt eich hun. Mae rhaid i arweinwyr fod o leiaf 18 mlwydd oed, brwdfrydig a threfnus; byddwn ni’n dysgu’r gweddill i chi a sicrhau eich bod yn cael yr holl hyfforddiant, cefnogaeth a mentora y bydd angen arnoch.
Rydyn ni’n gwybod bod gan ein harweinwyr fywydau prysur, felly rydyn ni’n hyblyg iawn. Faint bynnag o amser a sgiliau sydd gennych, gallwn ni ddod o hyd i rôl arbennig i chi.
Mae ScoutsCymru yn cynnig hwyl, cyfeillgarwch ac antur newid bywyd i bobl ifanc o bob cwr o Gymru. Mae hyn ond yn bosibl drwy dîmau talentog o wirfoddolwyr lleol fel chi.